Yn gyffredinol, croesawn y Bil a’i
ddarpariaethau’n fawr; credwn fod potensial gwirioneddol yma
i wella’r gyfundrefn ar gyfer plant a phobl ifanc ag
anghenion dysgu ychwanegol o bob math, a’u
teuluoedd.
Canolbwyntiwn yma ar ein prif bryderon, a’r meysydd y
credwn y dylai’r Pwyllgor ymchwilio iddynt, a chodi
gyda’r Llywodraeth.
Gwyddom nad yw’r Cod ADY drafft yn rhan swyddogol
o’r ymgynghoriad; fodd bynnag, gan ei fod yn ymhelaethu ar
fwriadau’r Llywodraeth, rydym yn cynnwys sylwadau am y Cod yn
ogystal ag am y Bil drafft ei hun.
1)
Lefel y cyfrifoldeb ar ysgolion
Yn
sgil dileu Datganiadau, mae’n ymddangos bod cryn dipyn o
gyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo o Awdurdodau Lleol i ysgolion
unigol, o ran gwneud penderfyniadau (determinations) ac o
ran llunio a chynnal cynlluniau datblygu unigol.
Mae
cyfrifoldeb sylweddol gan ysgolion ar hyn o bryd, ond o leiaf yn yr
achosion hynny ble mae gan blentyn datganiad, mae’n glir
mai’r Awdurdod Lleol sy’n gyfrifol am y
ddarpariaeth.
Dan
y drefn newydd, mae’n bosib y bydd y trothwy ar gyfer pryd
fydd y cyfrifoldeb yn pasio o lefel ysgol i lefel Awdurdod Lleol yn
uwch – sef dim ond pan fydd (a) penderfynu ar y mater y tu
hwnt i allu’r ysgol (b) anghenion dysgu ychwanegol y plentyn
neu’r person ifanc yn galw am ddarpariaeth na fyddai’n
rhesymol i’r corff llywodraethu ei sicrhau.
Os
yw’r dadansoddiad hwn yn gywir, mae angen cydnabod hynny, a
chynllunio ar gyfer y sgil-effeithiau yn arbennig felly yn
nhermau:
·
neilltuo adnoddau cyllidebol digonol
·
sicrhau lefelau staffio digonol
·
darparu lefel priodol ac amserol o ran hyfforddiant (i gyrff
llywodraethu, arweinwyr ysgol, cydlynwyr ADY, athrawon a
chynorthwywyr dysgu)
·
sicrhau bod cyngor arbenigol amserol ar gael i
ysgolion
Mae’r straen ar ysgolion bach, ble mae lefelau
staffio’n isel iawn – ond eto ble mae’r ganran o
blant ag ADY yn gallu bod yn uchel - yn debygol o fod yn sylweddol
iawn.
Nid
yw’r rhain yn faterion y disgwylid eu gweld ar wyneb y Mesur,
ond byddem yn disgwyl gweld cyfeiriadau yn y Cod, ac o bosib yn y
Memorandwm Esboniadol.
2)
Lefel y cyfrifoldeb a’r llwyth gwaith i’r
Cydlynydd ADY
Croesawn y ffaith bod disgrifiad o rôl a
chyfrifoldebau’r Cydlynydd yn y Cod drafft, a chytunwn
yn llwyr y dylai’r Cydlynydd fod yn aelod o’r Uwch
Dîm Rheoli.
Mae’n edrych yn glir o ddarllen y disgrifiad o’r
rôl a’r cyfrifoldebau mai swydd llawn amser yw hon.
Anodd iawn yw ceisio dychmygu ymgymryd â dyletswyddau
o’r fath ochr yn ochr ag amserlen dysgu a hynny yn sgil y
llwyth gwaith sylweddol iawn (gan gynnwys materion rheolaethol), y
lefel o arbenigedd sydd ei angen, a’r angen am hyblygrwydd o
ran amser i allu cwrdd ag amrywiaeth o randdeiliaid yn ystod y
diwrnod gwaith. Credwn y dylid datgan hynny’n glir yn y
Cod.
Yn
yr achosion hynny ble nad yw’n ymarferol i apwyntio un person
llawn amser, er enghraifft, mewn ysgolion bach, credwn y dylid
nodi’r posibilrwydd o benodi Cydlynydd ADY llawn amser ar
gyfer clwstwr o ysgolion. Mae cymaint o ysgolion bach yn system
addysg Cymru, ni chredwn ei fod yn briodol i’r Cod aros yn
fud ar y mater.
Mae’n gwestiwn gennym a yw geiriad y Bil Drafft yn
caniatáu cyd-benodi o’r fath am fod Adran 46(2) yn dweud
bod yn rhaid i ysgol neu Goleg Addysg Bellach ‘ddynodi aelod
o’i staff’ (‘must designate a
member of its staff’) fel Cydlynydd ADY (fy
mhwyslais i).
3)
Anghenion Hyfforddiant a Chymwysterau
Yn
ychwanegol at yr angen am hyfforddiant ymhlith staff presennol
ysgolion, Colegau Addysg Bellach ac Awdurdodau Lleol, bydd angen
cynllunio ar gyfer cynyddu’r ymwybyddiaeth a’r
ddealltwriaeth o faterion ADY ymhlith y gweithlu dysgu cyfan. Bydd
angen ystyried newidiadau i Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (o
bosib yn rhan o ddiwygiadau Addysgu Athrawon Yfory/Yr Athro John
Furlong), modiwl o fewn y Cwrs Meistr mewn Ymarfer Addysgol, ac
elfennau yng nghyrsiau hyfforddiant Cynorthwywyr Dysgu.
4)
Y
Gymraeg
Mae
UCAC - a nifer o fudiadau eraill sy’n cynrychioli miloedd o
unigolion rhyngom ni - wedi codi mater y Gymraeg ym mhob
ymgynghoriad ar y mater hwn dros flynyddoedd bellach, ac nid ydym
wedi gweld unrhyw welliant o un drafft i’r nesaf, er
i’r Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg nodi yr
‘ystyriwyd pob ymateb a ddaeth i law yn sgil ymgynghoriadau
blaenorol.’
Nid
yw’r dogfennau yn cydnabod bod problemau systemig o ran
sicrhau darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yn y Gymraeg. Nid
ydynt ychwaith yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod cymaint â
phosib o’r prosesau yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg yn unol
â dewis iaith plant, pobl ifanc a/neu rieni. Nid ydynt felly
yn cynnig unrhyw ffordd o fynd i’r afael â’r
anawsterau a’r gwendidau hyn.
Cred UCAC yn gryf y dylai bod hawl
gan unrhyw blentyn, person ifanc a'u teuluoedd i dderbyn y
ddarpariaeth a'r gwasanaeth priodol drwy eu dewis iaith - yn
Gymraeg neu'n Saesneg. Gan fod y Bil yn ymdrin â phlant
o’u geni hyd at bobl 25 oed, mae'r ddadl yn gryfach eto mewn
perthynas â phlant o deuluoedd Cymraeg eu hiaith nad ydynt eto
wedi dod i gysylltiad sylweddol â'r iaith Saesneg, ac sydd i
bob pwrpas yn uniaith Gymraeg. Byddai unrhyw asesiad o blentyn
uniaith, neu unrhyw ddarpariaeth ar ei gyfer yn gorfod bod yn y
Gymraeg i fod yn ystyrlon. Ni chyfeirir at y materion hyn o gwbl yn
y Bil nac yn y Cod.
Cawsom siom o’r mwyaf i weld na roddwyd sylw teilwng i
faterion ieithyddol o ran sgiliau'r gweithlu yn yr ‘Asesiad o
ofynion datblygu’r gweithlu anghenion addysgol
arbennig’ a gynhaliwyd yn ddiweddar gan yr Uned Pobl a Gwaith
ar ran Llywodraeth Cymru.
Dywed y Memorandwm Esboniadol (paragraff 7.255) bod cynigion y
Bil drafft yn ‘cefnogi’ strategaeth ‘Iaith Fyw:
Iaith Byw’ a’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg,
a’u bod yn ‘ategu gofynion Cynllun Strategol y Gymraeg
mewn Addysg’. Ymhellach, ym mharagraff 7.256, dywed
‘Mae ein cynigion yn cefnogi'r camau i sicrhau darpariaeth
Gymraeg. Bydd y Cod yn rhoi gwybodaeth bellach ynghylch darpariaeth
Gymraeg.’ Nid yw’n glir i ni sut mae’r cynigion
yn y Bil Drafft yn ‘cefnogi’ nac yn ‘ategu’
darpariaethau’r Strategaethau, gan nad yw unwaith yn crybwyll
y Gymraeg. Ac nid yw’r Cod yn ‘rhoi gwybodaeth bellach
ynghylch darpariaeth Gymraeg.’ Mae’r Asesiad o’r
Effaith ar y Gymraeg yn cynnwys rhestr o bwyntiau y
‘mae’n debygol y bydd y Cod drafft yn cynnwys’
mewn perthynas â’r Gymraeg, ond ar y cyfan nid
yw’r pwyntiau hyn (y datganiadau o egwyddor) yn ymddangos yn
y fersiwn drafft o’r Cod a gyhoeddwyd ochr yn ochr
â’r ymgynghoriad ar y Bil. I ble y diflannodd y
pwyntiau?
Teimlwn mai gwendid yr Asesiad Effaith yw ei fod yn
canolbwyntio ar y ffaith y bydd y cynigion deddfwriaethol yn
debygol o gael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr ag ADY yn
gyffredinol, gan gynnwys y rheiny sy’n astudio drwy
gyfrwng y Gymraeg, ond heb fanylu ar natur yr effaith ar y
ddarpariaeth Gymraeg yn benodol.
Mae’r cyfeiriad ym mharagraff 14 o’r Cod at
Safonau’r Gymraeg yn gyfan gwbl annigonol. Er bod Awdurdodau
Lleol yn dod dan gwmpas y Safonau, nid yw’r safonau’n
gyson o un Awdurdod i’r llall (h.y. mae hysbysiad
cydymffurfio yn pennu pa safonau sy’n
benodol gymwys i bob corff), ac felly ni fyddant yn creu
darpariaeth gyson ledled Cymru o ran y gyfundrefn ADY. Yn bwysicach
byth, nid yw ysgolion yn ddarostyngedig i’r Safonau –
na Cholegau Addysg Bellach ychwaith, hyd y gwyddom ni.
Nid
ydym o’r farn felly bod y Llywodraeth yn gwneud digon i osgoi
neu leihau’r risg o wahaniaethu yn erbyn siaradwyr Cymraeg
sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Dyma rai enghreifftiau o fannau y mae UCAC yn galw am sylw penodol
i’r Gymraeg ar wyneb y Bil, neu yn y Cod:
·
Pennod 2 y Cod:
dylai’r hawl i gael darpariaeth Cymraeg ac ymdrin
â’r prosesau drwy gyfrwng y Gymraeg gael ei nodi yn yr
adran Egwyddorion; dylai bod cyfeiriadau yn y cyd-destun hwn at
Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
(gofynion ieithyddol), Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru),
Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru, a Iaith Fyw:
Iaith Byw (Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru)
·
Pennod 4 y Cod: Cynnwys a chefnogi plant, eu rhieni a phobl
ifanc: mae’r bennod hon yn ymdrin â dyletswyddau i annog
cyfranogiad plant, eu rhieni a phobl ifanc yn y broses, a chamau
ymarferol y dylid eu cymryd i hwyluso hynny. Fodd bynnag, ni sonnir
unwaith am bwysigrwydd parchu dewis iaith y plant a’u rhieni,
a phobl ifanc yn y broses hon.
·
Pennod 5 y Cod (mewn perthynas ag Adran 7 y Bil: Cyngor a Gwybodaeth):
Teimlwn yn gryf iawn y dylid nodi’n ddiamwys bod disgwyl
i’r wybodaeth a chyngor y cyfeirir atynt fod ar gael yn y
Gymraeg – boed ar bapur, yn electronaidd neu ar lafar.
Dylai’r gofyniad rhwymo nid yn unig yr Awdurdodau Lleol, ond
unrhyw ddarparwyr allanol sy’n ymgymryd â’r gwaith
ar ran yr Awdurdodau Lleol. Os oes cytundeb lefel gwasanaeth,
disgwylir i ddarpariaeth ddwyieithog fod yn amod o’r
cytundeb.
·
Pennod 10 y Cod: Cynnwys Gorfodol y Cynlluniau Datblygu
Unigol: Nodir ‘the language spoken at home by the child or
young person’ fel un o’r darnau o wybodaeth
sy’n ofynnol; awgrymwn y dylid addasu hynny i nodi
‘languages’ yn y lluosog, gan mai dyma’r
realiti i gyfran helaeth o gartrefi Cymru. Ond yn bwysicach na
hynny, nid oes unrhyw sôn yma am (a) cyfrwng iaith addysg y
plentyn/person ifanc (b) ai yn y Gymraeg neu’r Saesneg yr
hoffai’r plentyn/person ifanc a’i rieni ymdrin
â’r broses ADY. Mae hyn yn fwlch amlwg a
phwysig.
·
Pennod 11 y Cod: Canllaw ar gynnwys y Cynlluniau Datblygu
Unigol: fel
uchod, mae diffyg cyfeiriadau at arferion a dewisiadau ieithyddol
yn nodweddi’r bennod hon. Er y sonnir am
‘communication and/or access requirements relevant to the
child, young person or their families’, rydym yn gadarn
o’r farn y dylid cyfeirio’n benodol at y Gymraeg, ac at
yr angen i gymryd i ystyriaeth a pharchu dewisiadau ieithyddol yr
unigolion dan sylw.
·
Pennod 14 y Cod: Trafnidiaeth: mi ddylai paragraff 355 nodi fod y Mesur Teithio gan Ddysgwyr
(Cymru) 2008 yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ‘hybu
mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y
Gymraeg.’
·
Pennod 15, paragraff 373 y Cod (mewn perthynas ag Adran 26 y Bil: Dyletswydd i dderbyn plant
i sefydliadau a enwir): dylai cyfrwng iaith y ddarpariaeth
fod yn un o’r ystyriaethau o ran a yw’r addysg a
ddarperir yn addas.
·
Penodau 20 a 21 y Cod: Dylid cyfeirio’n benodol at yr hawl i gael ymwneud
â phrosesau datrys anghydfodau ac apeliadau at y Tribiwnlys
drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cyfeiriadau at ‘suitable
format’ a ‘plain language’, ond dim un
cyfeiriad at gyfrwng iaith y prosesau.
·
Adran 31 y Bil: Diwygio’r gofynion cofrestru ar gyfer
ysgolion annibynnol yng Nghymru:
dylid nodi yn y gofrestr drwy gyfrwng pa ieithoedd y cynigir y
ddarpariaeth.
Credwn y dylai’r Bil ei hun gynnwys datganiad diamwys
sy’n nodi’r disgwyliadau o ran darpariaeth drwy gyfrwng
y Gymraeg – o ran y ddarpariaeth addysgol yn ogystal
â’r gallu i ymwneud â’r broses
gyfan.
Dylai’r Cod fynd i fanylder ynghylch y dyletswyddau, y
disgwyliadau a’r ymrwymiadau ar lefel ymarferol.
5)
Sicrhau ansawdd Beth
yw’r trefniadau a phwy sy’n gyfrifol am sicrhau ansawdd
y prosesau a’r ddarpariaeth? Ai’r prosesau apêl
a’r Tribiwnlys yw’r prif fecanweithiau? Bydd rôl
gan Estyn o ran ysgolion, Colegau Addysg Bellach (ac Awdurdodau
Lleol?), ond beth am randdeiliaid eraill megis Byrddau
Iechyd?
Mae
Adran 50 y Bil, a pharagraffau 236-238 o’r Cod yn ymwneud
â ‘Hawl awdurdod lleol i gael mynediad i fangreoedd
ysgolion a sefydliadau eraill.’ Cymrwn mai at ddibenion
sicrhau ansawdd y mae’r darpariaethau hyn yn cael eu gwneud.
Teimlwn y dylid ymhelaethu ar yr hyn a gynhwysir yn y Cod am y
mater hwn o ran y ‘specific circumstances’ pan
ganiateir mynediad, ac at ba bwrpasau yn union. Er enghraifft, a yw
mynediad o’r fath yn cynnwys yr hawl i arsylwi
gwersi?
|